Conwy Classical Music Festival Location
St. Mary’s Church is situated at the centre of the walled town of Conwy. It was founded as a Cistercian monastery in 1186 and for a hundred years was the burial place of the Princes of Gwynedd. Since 1283, when Edward I began work on Conwy Castle, it has been the Parish Church. It contains many features of interest including a Tudor font and a magnificent rood screen of c. 1500.
The other festival venue, The Royal Cambrian Academy of Art, is a few minutes’ walk from the Church. Signposted parking is available at various points in the vicinity, and the town is also served by a good local bus service and a railway station on the Chester to Holyhead line. We extend a warm invitation to you to join us at the festival and experience the delights of wonderful music performed in beautiful surroundings.
Saif Eglwys y Santes Fair yng nghanol tref gaerog Conwy. Sefydlwyd hi fel mynachdy Sistersiaidd ym 1186 ac am gan mlynedd, dyma fan claddu Tywysogion Gwynedd. Ers 1283, pan gychwynodd Edward I waith ar Gastell Conwy, gwasanaethodd fel Eglwys y Plwyf. Gwelir llawer o nodweddion diddorol ynddi, yn cynnwys bedyddfaen o gyfnod y Tuduriaid a sgrîn ysblennydd a godwyd tua 1500.
Mae’r safle arall a ddefnyddir yn ystod yr ŵyl, sef yr Academi Frenhinol, heb fod nepell o’r Eglwys ei hun. Mae sawl maes parcio o gwmpas canol y dref, a gwasanaethir y dref hefyd gan wasanaeth bysiau lleol da a gorsaf rheilffordd ar y lein rhwng Caer a Chaergybi. Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni yn yr ŵyl i brofi cerddoriaeth o’r safon uchaf mewn amgylchoedd prydferth.
St. Mary’s Church Location
The map below shows the location of St. Mary’s Church in Conwy.
Also of Interest
During festival week, the Castell Recorder Consort will perform on High Street in aid of Parkinson’s UK Cymru.
You may be lucky enough during festival week to catch performances in the churchyard of poems inspired by such places, such as Gray’s ‘Elegy written in a Country Churchyard’, or Wordsworth’s ‘We are Seven’, a poem connected specifically wth Conwy churchyard.
While in Conwy, do call in at The Royal Cambrian Academy, Crown Lane, to view the members’ exhibition on the joint themes of music and bridges, which runs from July 16th to August 22nd.
Yn ystod yr wythnos, bydd y Castell Recorder Consort yn perfformio ar y Stryd Fawr er budd Parkinson’s UK Cymru.
Efallai y byddwch yn ffodus yn ystod wythnos yr ŵyl i glywed perfformiad yn y fynwent o gerddi a ysbrydolwyd gan ymweliadau i fynwentydd, megis Gray’s ‘Elegy written in a Country Churchyard, neu ‘We are Seven’ gan Wordsworth, cerdd a gysylltir yn arbennig â mynwent Eglwys Conwy.
Tra yng Nghonwy, galwch i fewn yn yr Academi Frenhinol Gymreig yn Crown Lane i fwynhau arddangosfa yr aelodau o waith sydd yn ymwneud â cherddoriaeth a phontydd. Rhêd yr arddangosfa o Orffennaf 16eg tan Awst 22ain.
Disabled Access
St. Mary’s Church has disabled access via the west doors and is fitted with a hearing loop. Toilet facilities will be available on-site during festival week.
Ceir mynedfa i’r anabl yn Eglwys y Santes Fair drwy ddrysau’r gorllewin, a cheir yn ogystal system clywedol ‘loop’. Bydd toiledau ar gael ar y safle yn ystod wythnos yr ŵyl.